“Ers i’w lyfr cyntaf, Magic: an Occult Primer, gael ei gyhoeddi yn 1972 – a’r awdur yn ei ugeiniau – daeth y Cymro Cymraeg, David Conway, yn enwog am ei lyfrau ar y goruwchnaturiol. Yn awr, yn ei hunangofiant hir ddisgwyliedig, Magic: A Life in More Worlds than One, cawn hanes ei yrfa – bydol a hudol – gan ddechrau gyda’i ieuenctid yn Aberystwyth a’i chyffiniau. Cawn glywed am yr oriau hir a dreuliodd, ac yntau’n fachgen ifanc, yng nghwmni Mathowy James, ffermwr ar lethrau Pumlumon, oedd yn un o’r “dynion hysbys” olaf yng Nghymru. Yna mentrodd David Conway i Lundain a thu hwnt. Ond doedd y tu hwnt byth yn ddigon i’w fodloni a, fel y mae’n adrodd yn y tudalennau hwyliog hyn, fe fentrodd hefyd i fydoedd y tu hwnt i’r un sy’n gyfarwydd i ni i gyd ond sydd yn ddim llai gwirioneddol am fod yn anodd i’w ganfod. Hud yw’r allwedd i’r realiti cudd a ddisgrifir yma. Ac yn y llyfr hynod hwn dangosir sut y medrwn ddod o hyd iddo – a chawn dywyswr difyr a dibynadwy i’n hebrwng ar y daith.”